Hosea 5

Bydd Israel a Jwda'n cael eu barnu

1Gwrandwch, chi offeiriaid!
Daliwch sylw, bobl Israel!
Clywch, chi'r teulu brenhinol!
Mae'r farn ar fin dod arnoch!
Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa,
a rhwyd i ddal pobl Tabor;
2yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol,
a bydda i'n eich cosbi chi i gyd.
3Dw i'n gwybod yn iawn am Effraim.
5:3 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.

Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i!
Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio –
mae Israel wedi ei llygru'n llwyr.
4Mae eu drygioni'n eu rhwystro
rhag troi yn ôl at eu Duw.
Mae puteindra ysbrydol wedi eu meddiannu,
a dŷn nhw ddim yn nabod yr Arglwydd.
5Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.
Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni.
A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw.
6Wedyn, byddan nhw'n mynd at yr Arglwydd
gyda'i defaid a'u geifr a'u bustych.
Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi eu gadael nhw.
7Maen nhw wedi bradychu'r Arglwydd
ac maen nhw wedi cael plant siawns.
Yn fuan iawn, ar Ŵyl y Lleuad Newydd,
byddan nhw a'u tir yn cael eu difa.

Rhybudd fod y farn yn dod

8Chwythwch y corn hwrdd
5:8 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn Gibea!
Canwch utgorn yn Rama!
Rhybuddiwch bobl Beth-afen!
5:8 Beth-afen gw. y nodyn ar 4:15. Mae Gibea tua 5 milltir i'r gogledd o Jerwsalem, Rama tua 8 milltir, a Bethel tua 11 milltir.

Ti fydd gyntaf, Benjamin!
9Bydd Effraim yn cael ei dinistrio ar ddydd y cosbi!
Mae beth dw i'n ei ddweud wrth lwythau Israel
yn mynd i ddigwydd.
10Mae arweinwyr Jwda fel rhai sy'n symud terfyn i ddwyn tir; d
a bydda i'n tywallt fy llid arnyn nhw fel llifogydd!
11Bydd Effraim
5:11 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
yn cael ei orthrymu,
a'i sathru pan fydda i'n barnu;
am ei fod wedi penderfynu dilyn eilunod diwerth.
12Bydda i fel gwyfyn yn difa Effraim,
fel pydredd i bobl Jwda.
13Pan welodd Effraim ei fod yn sâl,
a Jwda'n gweld ei ddolur,
dyma Effraim yn troi at Asyria
am help gan ‛y brenin mawr‛.
Ond dydy e ddim yn gallu dy helpu.
Fydd e ddim yn gwella dy glwyf!
14Fi sy'n ymosod ar Effraim a Jwda,
fel llew yn rhwygo ei ysglyfaeth.
Fi – ie, fi! Bydda i'n eu rhwygo nhw'n ddarnau
a'i cario nhw i ffwrdd.
Fydd neb yn gallu eu helpu.
15Bydda i'n mynd yn ôl i'm ffau
nes byddan nhw'n cyfaddef eu bai.
Wedyn, byddan nhw'n chwilio amdana i;
yn eu helbul, byddan nhw'n chwilio'n daer amdana i:
Copyright information for CYM